yr hyn rydym ni'n ei wneud

Mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru'n un o bedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol Cymru gyda phartneriaid o fewn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n (LlCC) trosglwyddo adnoddau i'r Bartneriaeth i'w galluogi i wireddu ei phrif amcan, sef cyflawni ei Chynlluniau datblygu Rhanbarthol a Chynlluniau Gweithredu a gynhwysir yn ei Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru - “Strtegaeth Twristiaeth Gogledd Cymru 2010/15”.

Bydd y Bartneriaeth yn cyfrannu'n rhanbarthol i gyflawni cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru a Croeso Cymru, sy'n deillio o'r strategaeth twristiaeth genedlaethol “Cyflawni'n Potensial”.

Nod y Bartneriaeth yw "Gwella economi twristiaeth drwy Bartneriaeth, Cynllunio twristiaeth yfory, heddiw"

Mae'r Bartneriaeth yn ymrwymedig i wella safon ein twristiaeth a'n targedau drwy Ddatblygu'n Cynnyrch, Datblygu Hyrwyddiad a Datblygu Pobl, a daw hynny a manteision pendant i'r diwydiant twristiaeth, y gymuned ac yn bwysicach fyth i'r cwsmeriaid, ein hymwelwyr.

Mae gan ein Partneriaeth Fwrdd Cyfarwyddwyr ac amo 7 cyfarwyddwr awdurdod lleol,gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a 7 cyfarwyddwr masnach a etholwyd i ymateb i anghenion y diwydiant ym mhob rhan o'r rhanbarth. Bydd pedwar o'r cyfarwyddwyr masnach yn Gyfarwyddwyr Ardal Farchnata gyda chyfrifoldeb arbennig am eu Hardal Farchnata bersonol. Dyma'r Ardaloedd Marchnata - Ynys Môn, Eryri - Mynyddoedd ac Arfordir, Cyrchfannau Gwyliau Arfordir Gogledd Cymru, a Gororau Gogledd Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth o gynnyrch a gynigir yn y rhanbarth, a'r elfennau  gwahanol a hyrwyddir gan bob ardal farchnata a gwahanol rannau o'r ardaloedd hynny i ddenu ymwelwyr.

Bwriedir cael Partneriaeth Ardal Farchnata ym mhob Ardal Farchnata i gyflawni gofynion Cynllun Gweithredu Ardal Farchnata a Chynllun Busnes Ardal Farchnata wedi ei lunio gan asiantaethau twristiaeth yr ardal.

Bydd yn hanfodol i'r Bartneriaeth gael llinellau cyfathrebu hollol effeithlon gyda'r diwydiant - nid yn unig er mwyn cadw cysylltiad gwych o'r ddwy ochr, ond hefyd i sicrhau perchnogaeth. Bydd y Bartneriaeth yn cadw mewn cysylltiad gyda sefydliadau'r diwydiant twristiaeth, consortia a grwpiau marchnata pob ardal a sector o fewn y rhanbarth - pob awdurdod lleol a chymuned i ganfod eu blaenoriaethau marchnata -drwy eu Partneriaethau Ardal Farchnata.

Mae'r gyllideb a ddyrennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni'r Cynlluniau Gweithredu yn £1M y flwyddyn, a rhan ohono wedi ei ddynodi'n arian Partneriaethau Ardaloedd Marchnata i hyrwyddo prosiectau arbrofol gwaith Hyrwyddo. Defnyddir adnoddau'r Bartneriaeth i helpu gyda Datblygiad Cynnyrch , Datblygu gwaith Hyrwyddo'r diwydiant a Datblygu Personél.

Mae blaenoriaethau Datblygu Cynnyrch yn cynnwys gwella isadeiledd , strwythur mewnol -ac aradeiledd allanol - gan fod gennym Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol, a chyhoeddusrwydd strwythur meddal drwy ddatblygu pecynnau twristiaeth.

Gwerir yr arian i Ddatblygu Hyrwyddiad ar wella ac integreiddio gwaith hyrwyddo presennol ac elfennau newydd ac enwir yma rai ohonynt::

Bwriedir hyrwyddo o fewn y farchnad Gwyliau Byrion yn y DG ymgyrchoedd themâu Diwylliant, treftadaeth, a gwyliau gwledig ar gyfer pobl dros 45 - cyplau cefnog wedi ymddeol yn gynnar, cyplau cefnog di-blant, a chyplau hyn a grwpiau.

Hysbysebir Gwyliau Byrion Gogledd Cymru, Cewri Gogledd Cymru, Gerddi Gogledd Cymru a Map Ffilmiau Gogledd Cymru ar y thema Gweithgareddau i dargedu gweithwyr ifanc proffesiynol / grwpiau'n ymddiddori mewn Golffio Gogledd Cymru, Antur Gogledd Cymru a Cherdded Gogledd Cymru.

Cefnogi ymestyn y farchnad dwristiaeth Cynadleddau a Busnes, a'i ddwyn i sylw awdurdodau lleol a chwmnïau masnachol.

Sbarduno mentrau i ennyn diddordeb trefnwyr teithiau Grwp Cwmnïau Bysiau a rhoi manylion gwyliau i grwpiau neilltuol ar eu cronfa ddata. Canfod cwmnïau annibynnol fyddai'n debygol o brynu gwyliau grwp anffurfiol. Ystyrir rhoi mwy o gefnogaeth i ymgyrchoedd Ardaloedd Marchnata/Rhanbarthol i ddenu cwsmeriaid y farchnad arbennig hon a hefyd i gael mwy o effaith atyniadol mewn sioeau twristiaeth.

Er mwyn hybu'r Farchnad Ymwelwyr Dydd bwriedir penodi asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus i hysbysebu gweithgareddau ‘blasu' mewn lleoedd marchnata twristiaeth, i ategu ymgyrchoedd cenedlaethol. Bwriedir hefyd cydweithio gyda Chonsortia Den Ymwelwyr a hyrwyddwyr prif atyniadau i geisio denu mwy o gwsmeriaid o Ogledd Ddwyrain a Chanoldir Lloegr. Sefydlwyd yn barod gwefannau newydd Atyniadau Gogledd Cymru a Digwyddiadau Gogledd Cymru.

Datblygwyd Cynllun Cefnogi Digwyddiadau Rhanbarthol, i gynnig cymorth ariannol i'r cynlluniau rhanbarthol hynny sy'n ceisio ymestyn y tymor gwyliau ac yn cynyddu'n sylweddol y galw am welyau i ymwelwyr o fewn yr ardal.

Cymerwyd rôl arweiniol yng ngwaith y Comisiwn Digwyddiadau drwy gefnogi dros 50 digwyddiad yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys Gwyl y Faenol, Bryn Terfel, Sioe Môn, Eisteddfod Fiwsig Rhwngwladol Llangollen, Cwpan Ryder Cymru 2010, Gwyl Griced Gogledd Cymru.

Mewn Datblygu Pobl, bydd y Bartneriaeth yn cefnogi, gyda phrif asiantaethau eraill, datblygiad y sgiliau newydd sy'n angenrheidiol i wneud y gorau o'r enillion a ddaw o gynlluniau marchnata arloesol. Galla'r rhain gynnwys meincnodi, datblygu perthynas gyda'r cwsmer mewn dull electronig, a rhwydweithio TG.

Am fanylion - ymwelwch â'r wefan www.tpnw.org neu cysylltwch â Dewi Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol, ar 01745 589020 neu 07831 597408 (ffôn), 01745 589028 (Ffacs), e-bost: dewi.davies@tourism.wales.gov.uk neu ysgrifennwch at 25 Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0LJ.

Rhwydwaith o gyfundrefnau twristiaeth

I gofnodi eich gwasanaethau gyda ni, llawrlwythwch ein Ffurflen gofrestru tender detholus

.
llun: Rhaeadr Gerddi Bodnant