ein gweithgareddau
Brandio Nodedig
Synnwyr Lleoliad Unigryw
Cynyddu ymwybyddiaeth o Synnwyr Lleoliad Unigryw Gogledd Cymru. Hwyluso ymweliadau cynghorol. Gwella gwybodaeth am synnwyr lleoliad a'r buddion economaidd sy'n dilyn o Synnwyr Lleoliad.
Datblygiad Brand Marchnata
Bydd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn mwyhau Brand Cymru, a adeiladwyd ar y gwerthoedd "Dynol, Real, Swynol", ond gyda'r gwahaniaethiad rhanbarthol "Dramatig". Y cynigiad fydd "North Wales – The Great Outdoors". Bydd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn cyflwyno'r brand ar y lefelau rhanbarthol ac ardaloedd marchnata, gan gynnwys ei ledaenu i'r diwydiant twristiaeth trwy'r arweinlyfr "Cynyddu twristiaeth yn eich rhanbarth". Bydd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn ceisio cryfhau hunaniaeth a gwerthoedd Gororau Gogledd Cymru.
Toriadau Byr Gogledd Cymru
Ymgyrch ar-lein gyflawn ar gyfer bwcio pob math o letyaeth ar draws Gogledd Cymru. Wedi ei anelu at y farchnad 25+, mae hefyd yn atgyfnerthu'r ymgyrch golff, cewri a cherdded gyda bwcio lletyaeth ar-lein. Mae 60% o hysbysebwyr yn cynnig argaeledd bwcio byw a bwcio cwsmer uniongyrchol, gan dalu dim ffi bwcio na chomisiwn.
Cewri Gogledd Cymru
Mae'r ystod hon o weithgareddau yn canolbwyntio ar hyrwyddo ac integreiddio nwyddau twristiaeth diwylliannol a threftadaeth, a'u hyrwyddo gyda phartneriaid sector gyhoeddus a phreifat. Mae'n cydweithio'n agos gyda'r Bartneriaeth Twristiaeth Ddiwylliannol Ranbarthol TANT, sy'n dod â deiliaid diddordeb o gyrff sector gyhoeddus sydd ynghlwm â'r sector hon at ei gilydd.
Map Ffilmiau Gogledd Cymru
Partneriaeth ar-y-cyd gyda Chomisiwn Ffilm Gogledd Cymru sy'n ariannu gosod placiau lleoliad ffilm, sydd yna'n cael eu marchnata gyda map ffilmiau argraffedig a gwefan bwrpasol. Mae hwn bellach yn cynnwys 60+ lleoliad ffilm a theledu ar draws Gogledd Cymru.
Ymgyrch Trefi Caerog
Partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Caer, Cadw a phedwar awdurdod lleol Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth ariannol gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, i hyrwyddo trefi caerog Caer, Biwmares, Caernarfon, Conwy a Dinbych. Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caer, gyda chyllideb o £11,000 yn cael ei defnyddio i flaenu ymgyrch ar-lein fydd yn cyd-weithio'n agos gyda'r datblygiad giantsnorthwales.co.uk.
Cynadleddau Gogledd Cymru
www.conferences-northwales.co.uk
Yr amcan fydd gwella gweithgareddau twristiaeth busnes a chynhadledd a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella ac ychwanegu gwerth trwy ehangu ymgyrchoedd hyrwyddo presennol. Yn targedu - Cymdeithasau Cenedlaethol DU, Cyfarfodydd Sector Gyhoeddus DU, Cyfarfodydd Corfforedig DU, cyfarfodydd a grëir yng Nghymru, Cymdeithasau Rhyngwladol, Hyfforddiant/Datblygiad Rheolaeth, teithio cymhelliad a thwristiaeth partner - h.y. ar gyfer partneriaid mewn cynadleddau. Y bwriad fydd ceisio sicrhau prynu-i-mewn gan bob awdurdod lleol, ar y ddealltwriaeth fod diddordeb pob awdurdod unigol yn cynhyrchu gwerthiannau digonol ar gyfer busnes eu hardal a gwestai cynhadledd. Bydd yr ymgyrch yn codi proffil y rhanbarth fel cyrchfan busnes yn y National Venues Show a Confex, a bydd y grwˆp yn gweithio gyda Croeso Cymru mewn nifer o ddigwyddiadau busnes-i-fusnes ar gyfer y sector hon.
Marchnata Grwp a Hyfforddwr
Ystyrir rhoi cymorth ar gyfer gwella ymgyrchoedd sail Marchnata Rhanbarthol i'r farchnad hon a sicrhau effaith uwch mewn sioeau masnach deithio fel Best of Britain and Ireland, Travel Trade Britain a Great Days Out. Bydd y thema Cewri Gogledd Cymru ar ddiwylliant a threftadaeth yn cael amlygrwydd uwch mewn ymgyrchoedd dyfodol.
Mordaith Gogledd Cymru
Cynorthwyo datblygiad gweithgaredd marchnad Mordaith Gogledd Cymru trwy borthladd Caergybi, i fynyddoedd Eryri a'r arfordir ac ar hyd llwybrau lleol, a chadw golwg ar ba gyfleoedd a all godi o'r fasnach mordaith ym mhorthladd Lerpwl.
Safon Uwch
Mentrau Rheolaeth Safon Integredig
Cyflwyno Cit Teclyn Rheolaeth Safon Integredig, ar sail cynnig, mewn ardaloedd twf twristiaeth a chymunedau twristiaeth eraill.
Cymorth Datblygiad Nwydd
Swyddog Gweinyddol yn blaenu cydymffurfiad gyda Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Chynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cynlluniau Datblygiad Cefn Gwlad, Arian Cynllun Cydgyfeiriant Cystadleuaeth.
Golff Gogledd Cymru
Partneriaeth gyda Golff Cymru, Cwpan Ryder Cymru 2010, Undeb Golff Cymru, Datblygiad Golff Cymru, awdurdodau lleol, clystyrau golff, BRS Systems a 24 clwb golff allweddol ar draws Gogledd Cymru i hyrwyddo unigrwydd chwarae golff yng Ngogledd Cymru - "golff safonol am brisiau fforddiadwy". Ffocws ar ddatblygu TG a bwcio ti ar-lein mewn clybiau, fydd yna'n cael ei hyrwyddo trwy gyfrwng pamffled a gwefan holl-ranbarthol. Mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn ariannu llinell fwcio gynhwysfawr a gwasanaeth cais llyfryn/DVD a weithredir gan Twristiaeth Gogledd Cymru ac yn mynychu sioeau golff allweddol. Mae arian ar y cyd yn ariannu ymgyrch farchnata sy'n cynnwys hysbysebion, e-chwythiadau i gronfa ddata bwrpasol a dosbarthiad llyfryn yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru hefyd yn ceisio cymorth gan y diwydiant golff ar gyfer cynllun Croeso Cymru 'Driving Change', ac yn annog clybiau allweddol i riportio'n rheolaidd i'r Monitor Twristiaeth Golff.
Cerdded Gogledd Cymru
Yn cydweithio gyda phartneriaid sector gyhoeddus a phreifat i annog mwy o weithredwyr gwyliau cerdded a hyrwyddo pob math o gerdded trwy gyfrwng un gwefan a llyfryn. Cefnogi llinell fwcio gynhwysfawr ar gyfer pecynnau cerdded ac ymweliadau cyfryngau. Cefnogi Croeso Cymru gyda'r arian sy'n cael ei fuddsoddi i ddatblygu ymwybyddiaeth gwyliau cerdded yng Nghymru. Cefnogi digwyddiadau cerdded ar draws Gogledd Cymru a'r fenter Walkers Are Welcome – cynllun DU-gyfan sy'n annog trefi a chymunedau i gyd-weithio i groesawu cerddwyr.
Antur Gogledd Cymru
Yn canolbwyntio ar y marchnadoedd dablwr a chorfforedig ac yn cefnogi llinell fwcio gynhwysfawr, llyfryn a gwefan sy'n denu partïon cyn-priodas dynion a merched, ac anturwyr ifanc ariannog o'r Ddinas sydd am geisio nifer o wahanol weithgareddau yn ystod un penwythnos. Cydweithio gyda darparwyr lletyaeth Gogledd Cymru, gan gynnwys lletyaeth math byncws, a chynnig cynllun gweithgaredd-yn-unig a gaiff ei ddosbarthu mewn partneriaeth gyda darparwyr lletyaeth yng Ngogledd Cymru.
Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru 2009/14
Statws gweithrediad y Cynlluniau Gweithredu Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru 2009/14. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn ei adolygu ddwywaith y flwyddyn. Bydd y Strategaeth yn goleuo'r Cynlluniau Gofodol y Gogledd Orllewin a'r Gogledd Ddwyrain.
Perthnasau Cyhoeddus Corfforedig
Mae angen cyfathrebu yn strategol gyda'r diwydiant twristiaeth ar weithgareddau Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru trwy gyfrwng cyfarfodydd e-Croeso misol a chyfarfodydd agored cyffredinol a fforymau.
Mynediad Haws
Cronfa Ddata e-bost Perthynas Cwsmer
Defnyddio cronfeydd data cymdeithasau masnach presennol a busnesau annibynnol fel cyfryngau ar gyfer dosbarthu cylchlythyrau electronig, gyda digwyddiadau a chynigion. Bydd cadw at ddeddfwriaeth gwarchod gwybodaeth yn rhagofyniad ar gyfer y fenter hon.
Gwella cyfleusterau bwcio
Cynigir cadw'r cyfleuster bwciadau canolog rhanbarthol, er mwyn cynnig gwasanaeth bwcio da i gwsmeriaid.
Digwyddiadau Gogledd Cymru
Yn ariannu asiantaeth sy'n gyfrifol am wefan ddigwyddiadau holl-ranbarthol i hyrwyddo digwyddiadau cynradd a marchnadoedd wythnosol ar draws y rhanbarth. Mae'n cydweithio gydag atyniadau Gogledd Cymru a thoriadau byr Gogledd Cymru i sicrhau fod y tri brand yn cael eu traws-hyrwyddo i unrhyw rai sy'n ymweld â'r gwefannau hyn. Mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth i drefnwyr digwyddiadau potensial a allai fod am drefnu digwyddiad yng Ngogledd Cymru.
Atyniadau Gogledd Cymru
www.attractionsnorthwales.co.uk
Yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd o gynrychiolwyr consortia atyniadau gyda'r bwriad o leihau'r maint o daflenni a argraffir ac annog ffocws uwch ar wefannau yn y dyfodol. Datblygwyd gwefan holl-ranbarthol, sy'n cynnwys mwy na 180 atyniad yng Ngogledd Cymru. Mae'r wefan am ddim i atyniadau, a gallant ddiweddaru eu gwybodaeth ar unrhyw adeg. Mae'n cynnwys Attractions of Snowdonia; Anglesey Attractions, Llandudno Attractions, North Wales Borderlands Attractions, Great Days Out, Cadw North Wales a National Trust North Wales.
Sgiliau Gwell
Mentrau ar y cyd gyda HTiG
Bydd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru (PTGC) gyda Hyfforddiant Twristiaeth i Gymru (HTiG) yn rhedeg y Fforwm Ddatblygiad Pobl.
Meincnodi
Arian ar gyfer datblygiad cynlluniau meincnodi ar gyfer gwahanol sectorau o'r diwydiant twristiaeth. Mae'r prosiectau yn cynnwys Attractions Learning Journey.
Rhwydweithio TG a Menter e-Ddysgu
Modiwlau e-hyfforddiant ar gyfer busnesau twristiaeth, gan gynnwys bwcio ar-lein web4u ac info4u.
Partneriaethau Cryfach
Partneriaethau Ardal Marchnata
Ynys Môn: www.visitanglesey.co.uk
Eryri Môr a Mynydd: www.visitsnowdonia.info
Trefi Glan Môr GO - Gorllewin: www.rhyl-prestatyn.co.uk
Trefi Glan Môr GO - Dwyrain: www.visitconwy.org.uk
Gororau Gogledd Cymru: www.borderlands.co.uk
Gwahodd cynigion gan Bartneriaethau Ardal Marchnata am brosiectau hyrwyddol sy'n bodloni anghenion y Cynlluniau Gweithredu sail Ardal Marchnata yn unol â Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru. Bydd y gyllideb hefyd yn ddilys ar gyfer cynigion Ardal Twf Twristiaeth. Bydd y gyllideb yn gwella mentrau twristiaeth fel y rhai a gyflawnwyd gan y grwpiau Leader Plus. Bydd angen cyflwyno cynigion cyn y dyddiad terfyn a dangos yr effaith o ran maint y Refeniw Twristiaeth a Gynhyrchir. Bydd angen cwrdd â'r meini prawf Gwerthuso a Monitro.
Arddangosfeydd/sioeau
Sicrhau cynllun rhanbarthol ac arddangosfa ar gyfer Gogledd Cymru sy'n targedu marchnadoedd targed ac yn gwneud cyfraniad ariannol i ffeiriau ac arddangosfeydd cwsmer a masnach fel Travel Trade Britain a Best of Britain. Cydweithio gyda chonsortia atyniadau a darparwyr lletyaeth i geisio cynyddu cyfranogiad mewn sioeau o'r fath.
Masnach Teithio
Ariannu gwasanaeth i ymateb i fasnach deithio ac ymholiadau gan newyddiadurwyr, a gwneud trefniadau ar gyfer ymweliadau cyfarwyddo.
Partneriaeth Ariannu STEAM
Cyfraniad at ariannu craidd y model STEAM Rhanbarthol Gogledd Cymru fel y cyflawnwyd gan Gyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam, a sicrhau lledaeniad ehangach o ganlyniadau STEAM Ardal Marchnata i fusnesau cysylltiedig. Ceisio gweithio tuag at un cytundeb STEAM cenedlaethol ar gyfer 2007/08.
Tramor
Cyfrannu at elfen bresennol Gogledd Cymru yn y fenter farchnata dramor, yn amodol ar gadw hunaniaeth sengl ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd arian ar gael ar gyfer gwaith partneriaeth parhaol rhwng y chwe Awdurdod Lleol rhanbarthol a Croeso Cymru, gyda chyfryngau aml-iaith yn cael eu defnyddio i wasanaethu anghenion y marchnadoedd Ewropeaidd cynradd.

